top of page

Statws Hygyrchedd CMAC

Mae'r datganiad hygyrchedd hwn yn berthnasol i wybodaeth Canolfan Monitro Arfordir Cymru sydd ar cy.wcmc.wales

​

Mae'r wefan hon yn cael ei rhedeg gan Ganolfan Monitro Arfordir Cymru.  Rydym am i gynifer o bobl â phosibl allu defnyddio'r wefan hon.  Er enghraifft, mae hynny'n golygu y dylech allu:

 

  • Chwyddo hyd at 300% heb i'r testun fynd oddi ar y sgrin.

  • Mae modd llywio drwy'r rhan fwyaf o'r wefan drwy'r bysellfwrdd.

  • Rydym hefyd wedi gwneud y testun ar y wefan mor syml â phosibl i'w ddeall.

  • Mae'r wefan wedi'i rhaglennu i gael ei hoptimeiddio ar gyfer y darllenwyr sgrin canlynol:

Windows + Firefox neu Chrome:  NVDA (Darllenydd am ddim)

Mac + Safari:  Voiceover (Darllenydd mewnol)

Android + Chrome:  Talkback (Darllenydd mewnol)

iOS + Safari:  Voiceover (Darllenydd mewnol)

 

 Mae gan AbilityNet gyngor ar wneud eich dyfais yn haws ei defnyddio os oes anabledd gennych.

 

Gwyddom nad yw rhai rhannau o'r wefan hon yn gwbl hygyrch: 

  • Mae’n bosibl nad yw rhai tudalennau ac atodiadau i ddogfennau wedi'u hysgrifennu'n glir

  • Nid yw rhai elfennau penawdau’n gyson

  • Nid yw rhai teitlau tudalen yn unigryw

  • Nid yw rhai labeli ffurflenni yn unigryw

  • Nid oes gan gan rai delweddau destun amgen da

  • Nid yw rhywfaint o destun dolen yn disgrifio diben y ddolen

  • Mae llawer o ddogfennau ar ffurf PDF ac nid ydynt yn hygyrch

​

 

Gwyddom nad yw rhai o'n dogfennau'n hygyrch.  Er enghraifft, mae rhai ohonynt:

  • Heb eu marcio mewn ffordd sy'n caniatáu i ddefnyddwyr darllenwyr sgrin eu deall

  • Heb eu tagio'n iawn, er enghraifft nid ydynt yn cynnwys penawdau priodol

  • Heb eu hysgrifennu mewn Cymraeg clir

​

​

Mae rhai o'r rhain yn ddogfennau hanesyddol.  Nid oes gennym unrhyw gynlluniau ar hyn o bryd i'w gwneud yn hygyrch.

​

​

Rhoi gwybod am broblemau hygyrchedd o ran y wefan hon

​

Rydym bob amser yn ceisio gwella hygyrchedd y wefan hon.  Os byddwch yn dod o hyd i unrhyw broblemau nad ydynt wedi'u rhestru ar y dudalen hon neu'n meddwl nad ydym yn bodloni gofynion y rheoliadau hygyrchedd, cysylltwch â ni drwy'r ddolen cysylltu â ni o dan y pwnc 'hygyrchedd'.

 

Gweithdrefn orfodi

​

Mae'r Comisiwn Cydraddoldeb a Hawliau Dynol yn gyfrifol am orfodi Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018 (y 'rheoliadau hygyrchedd'). Os nad ydych yn hapus gyda'r modd yr ydym yn ymateb i'ch cwyn, cysylltwch â'r Gwasanaeth Cynghori a Chefnogi Cydraddoldeb (GCCC/EASS).

​

Mae Canolfan Monitro Arfordir Cymru wedi ymrwymo i wneud ei wefan yn hygyrch, yn unol â Rheoliadau Hygyrchedd Cyrff Sector Cyhoeddus (Gwefannau a Rhaglenni Symudol) (Rhif 2) 2018.

 

Paratoi'r datganiad hygyrchedd hwn

​

Paratowyd y datganiad hwn ar 18/03/2021.  Fe'i hadolygwyd ddiwethaf ar 24/03/2021.

Cafodd y wefan hon ei phrofi ddiwethaf ar 10/04/2021.

​

Profwyd:

Ein prif lwyfan gwefan, sydd ar gael yn https://cy.wcmc.wales/

​

​

bottom of page