
Canolfan Monitro Arfordirol Cymru - Lleoliad Gwaith israddedig 22-23
Gwyddonydd Proses Arfordirol Cynorthwyol- Lleoliad Gwaith israddedig 12 mis
RÔL AROLWG ARFORDIROL
• Cynllunio
• Maes Gwaith
• Prosesu a Dadansoddi
LLEOLIAD: Gwenfô ger Caerdydd. Gyda theithiau i draethau Cymru
ORIAU: llawn amser
CYFLOG: £20,441
* Gall hyn newid ar sail unrhyw gytundeb yn 2023
DYDDIAD CAU: 17/01/23 17:00
DYDDIAD CYCHWYN: 01/09/23
Am y rôl
Mae Canolfan Monitro Arfordir Cymru yn falch o gynnig swydd israddedig newydd fel Gwyddonydd Prosesau Arfordirol Cynorthwyol. Mae’r Ganolfan yn gweithredu ers 2019, yng Ngwenfô, Bro Morgannwg a chafodd y dasg o fesur morlin Cymru yn strategol, gan gefnogi’r awdurdodau rheoli risg gyda gwneud penderfyniadau yn seiliedig ar dystiolaeth.
Bydd y cyfle yn rhoi profiad o gynllunio, gweithredu, rheoli ansawdd, prosesu a dadansoddi arolygon o’r arfordir. Bydd ymgeiswyr yn dysgu am gynllunio strategol ar lefel genedlaethol hyd at ddewis yr offer a’r dewis proffil cywir ar lefel leol. Caiff data hanesyddol ei gymharu er mwyn dehongli monitro’r traethau.
Mae cydbwysedd rhwng gwaith swyddfa a gwaith maes yn rhoi dealltwriaeth drylwyr o gasglu a phrosesu data er mwyn cael cylch gwelliant personol cadarnhaol.
* Yn amodol ar gadarnhad cyllid blynyddol Llywodraeth Cymru, a gymeradwyir yn flynyddol ym mis Mawrth.
Sut i wneud cais
Lawrlwythwch y swydd ddisgrifiad a manyleb person isod . Yna anfonwch CVs i walescmc@gmail.com erbyn 17:00, 27/01/23.
Fel rhan o unrhyw broses recriwtio, mae Cyngor Bro Morgannwg yn casglu ac yn prosesu data personol yn ymwneud ag ymgeiswyr am swyddi.
Drwy e-bostio eich cais rydych yn cydsynio i'ch data personol gael ei gasglu a'i brosesu at ddiben prosesu eich cais swydd am swydd gyflogaeth (cliciwch i ddarllen y datganiad cyfan)