top of page

Astudiaethau Achos Newid hinsawdd (bydd angen porwr Google Chrome)

Gweler ein taith 360 o astudiaethau achos o leoliadau sy'n delio â Newid yn yr Hinsawdd yng Nghymru ac yn Rhyngwladol.

Cymru - Astudiaethau achos

W1 - Lleolir Traeth Llanilltud Fawr ar arfordir deheuol Cymru ar ddiwedd cwm bach a oedd unwaith ag afon sy’n fwy na'r nant bresennol.

​

Mae'r traeth yn rhan o Arfordir Treftadaeth Morgannwg ac yn profi erydiad dramatig gan gynnwys clogwyni sydd wedi achosi marwolaethau.  Gall cwympiadau clogwyni ddatgelu ffosiliau Jwrasig, gan gynnwys cwrelau, braciopodau anferth, gastropodau ac esgyrn Ichthyosaurus.

Credydau:  Yr Athro Allan Williams (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant), Gwyn Nelson

W2 - Lleolir Southerndown yn ne Cymru, a dyma’r berl fwyaf ymhlith safleoedd Arfordir Treftadaeth Morgannwg sy’n boblogaidd iawn gyda thwristiaid. Oherwydd ei fod yn wynebu'r gorllewin mae'n agored i Fôr yr Iwerydd.

Credydau:  Yr Athro Allan Williams (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant), Gwyn Nelson

W3 - Newton

 

Y penderfyniad presennol yn Newton, sydd ag amrediad llanw o fwy nag 8m, yw rhoi'r gorau i gynnal yr amddiffynfeydd arfordirol yn sgil newid yn yr hinsawdd a chynnydd cyfatebol yn lefel y môr.

Credydau:  Yr Athro Allan Williams (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant), Gwyn Nelson

W4 - Mae Porthcawl yn dref dwristaidd ar arfordir de Cymru a ddatblygodd yn wreiddiol fel porthladd allforio glo yn y 19eg ganrif. Adeiladodd Porthcawl ei wal forol gyntaf yn 1887.

​

Credydau:  Yr Athro Allan Williams (Prifysgol Cymru Y Drindod Dewi Sant), Gwyn Nelson

W5 - Niwgwl, tref dwristaidd fach sy'n boblogaidd yn yr haf ar gyfer chwaraeon dŵr. Mae i'r traeth 2 filltir o led olygfeydd garw, tonnau syrffio a theithiau natur.


Credydau:  Emyr Williams (Cyngor Sir Benfro), Gwyn Nelson

W6 - Pentref glan môr yng Nghymru yw Fairbourne, wedi'i amgylchynu gan Barc Cenedlaethol Eryri.

Yn Fairbourne, mae'r penderfyniad wedi'i wneud, i roi'r gorau i gynnal amddiffynfeydd môr (erbyn 2054).  Gyda newid yn yr hinsawdd; mae risgiau uwch yn wynebu'r gymuned oherwydd cynnydd yn lefel y môr, amlder stormydd cynyddol a dwysedd stormydd.


A gydag effeithiau newid yn yr hinsawdd yn cynyddu, ni fydd modd parhau i ddiogelu'r gymuned hon ac eraill yng Nghymru rhag newid yn yr hinsawdd gan y bydd yn mynd yn rhy ddrud ac anniogel.

Credydau:  Lisa Jane Goodier (Cyngor Gwynedd), Gwyn Nelson

W7 - Cychwynnodd Niwbwrch, de orllewin Ynys Môn, raglen sefydlogi twyni yn y 1950au, oherwydd cynaeafu glaswellt marram ar gyfer cymunedau lleol rhwng 1800 a'r 1950au.

​

Credydau:  Guto Walker-Springett (Prifysgol Bangor), Gwyn Nelson

bottom of page